Skip to main content
BETA

Ymhen amser y safle BETA fydd ein safle byw newydd. Am BETA.

Cymorth gyda'r adran weinyddiaeth

Mae Gyrfa Cymru yn ymroddedig i ddarparu'r gwasanaeth gorau posibl i chi yn eich ysgol neu goleg.

Gallwch gysylltu â ni i gael cymorth mewn gwahanol ffyrdd er mwyn sicrhau eich bod yn cael cefnogaeth lawn wrth ddefnyddio’r safle:

 Y ddesg gymorth 02920 84 6799

Mae ein llinell gymorth ar agor o Ddydd Llun i Ddydd Iau rhwng 09:00am a 16:30pm a 09:00am a 16:00pm ar Ddydd Gwener. Gadewch neges y tu allan i oriau swyddfa a byddwn yn dychwelyd eich galwad cyn gynted â phosibl.

 E-bost


Lanlwytho data disgyblion ysgol

Mae’r wefan hon yn rhannu gwybodaeth am sut y caiff data cleientiaid ei gasglu a’i brosesu. Bydd aelod dynodedig o staff eich ysgol yn gyfrifol am y broses hon.

Yn ystod hanner cyntaf blwyddyn academaidd newydd bydd Tîm Systemau Gwybodaeth Reoli (SIMS) Gyrfa Cymru yn anfon cais drwy ebost at ysgolion a / neu Awdurdodau Lleol yn gofyn iddynt ddarparu data ar ddisgyblion ym mhob grŵp blwyddyn mewn addysg uwchradd. Mae rhai Awdurdodau Lleol wedi cytuno i ddarparu data bob tymor.

Rydym yn gofyn am y data mewn fformat penodol, ac yn gofyn i’r data gael ei lanlwytho drwy gyfleuster lanlwytho diogel ar-lein Gyrfa Cymru.

Lanlwytho i Gyrfa Cymru

Ar ôl cwblhau’r daenlen data disgyblion bydd angen i chi ei lanlwytho i Gyrfa Cymru drwy’r Cyfleuster Lanlwytho Diogel.

Gweld manylion a chyfarwyddiadau ar sut i lanlwytho i'r Cyfleuster Lanlwytho Diogel.

Ar ôl derbyn y data, bydd tîm Systemau Gwybodaeth Reoli (MIS) Gyrfa Cymru yn ei brosesu, ei baru a’i lanlwytho i IO (cronfa ddata cleientiaid Gyrfa Cymru). Caiff cofnodion presennol eu diweddaru a chaiff cofnodion newydd eu creu.

Ar gyfer ysgolion sy'n gweithredu system SIMS

Templed Fersiwn 1 Gyrfa Cymru

Adroddiad SIMS a gomisiynwyd gan Gyrfa Cymru gan gwmni cymorth SIMS, sef Cynnal. Mae’n rhaid i staff yr ysgol lawrlwytho’r adroddiad a’i gadw ar yriant lleol neu yriant a rennir (C:/) priodol. Gellir mewnbynnu’r adroddiad ar y system SIMS a’i redeg gan ddilyn y cyfarwyddiadau yn Nhempled Gyrfa Cymru isod.

Cyfarwyddiadau'r Templed

Mae’n rhoi cyfarwyddiadau i ysgolion ar sut i fewnbynnu a rhedeg adroddiad Templed Gyrfa Cymru. Noder, cliciwch ‘Dewis bob un’ yn yr adran Grŵp Blwyddyn.

Ar gyfer ysgolion nad ydynt yn gweithredu system SIMS

Enghraifft o fanyleb data.

Taenlen yw hon sy’n dangos data Disgyblion a luniwyd gan adroddiad Templed Fersiwn1 Gyrfa Cymru. Dyma’r wybodaeth a’r fformat y mae Gyrfa Cymru ei hangen ar gyfer ysgolion nad ydynt yn defnyddio’r system SIMS:

Cyfleuster rheoli cyfrineiriau

Mae'r Cyfleuster Rheoli Cyfrinair yn caniatáu i ddarparwyr dysgu i reoli cyfrifon defnyddwyr a dysgwyr proffesiynol o fewn yr adran Rheoli Defnyddwyr ar y safle Proffesiynol. Mae'r canllaw Cyfleuster Rheoli Cyfrinair yn darparu defnyddwyr proffesiynol gyda chanllawiau ar sut i ddefnyddio'r Cyfleuster Rheoli Cyfrinair newydd.