Skip to main content
BETA

Rydych chi’n edrych ar fersiwn newydd o wefan Gyrfa Cymru. Am y wefan newydd.

Gwneud cais i'r brifysgol

Os ydych yn ystyried gwneud cais i fynd i’r brifysgol, mae yna lawer i feddwl amdano a pharatoi ar ei gyfer.

Byddwch yn treulio 3 blynedd neu fwy’n astudio ac yn byw yn y brifysgol a ddewiswch. Bydd ariannu eich astudiaethau’n ymrwymiad ariannol mawr, felly mae’n bwysig iawn ichi ymchwilio’n drylwyr a dechrau paratoi eich cais yn fuan.

Caiff yr holl geisiadau am gyrsiau addysg uwch eu gwneud yn ganolog trwy UCAS (dolen Saesneg)

Dyddiadau a therfynau amser allweddol UCAS

  • Mai – UCAS yn agor ar gyfer israddedigion i ddechrau paratoi ceisiadau
  • Gorffennaf - Y gwasanaeth UCAS Conservatoires Apply (dolen Saesneg) yn fyw er mwyn galluogi israddedigion i gyflwyno ceisiadau
  • Medi – Gellir cyflwyno ceisiadau israddedig UCAS
  • 1 Hydref – Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau cerddoriaeth 
  • 15 Hydref – Dyddiad cau cynnar UCAS ar gyfer Meddyginiaeth, Deintyddiaeth, Gwyddor Milfeddygaeth, Rhydychen a Chaergrawnt
  • 15 Ionawr – dyddiad cau UCAS ar gyfer y rhan fwyaf o gyrsiau israddedig

Gwiriwch bob dyddiad a therfyn amser ar Dudalen dyddiadau allweddol UCAS (dolen Saesneg).

Mae yna lawer o waith ymchwil i’w wneud. Llawer i’w baratoi. Mae dechrau tymor y Gwanwyn ym Mlwyddyn 12 yn amser da i gychwyn, neu’r flwyddyn cyn ichi gychwyn eich cwrs.

Dechreuwch baratoi eich cais:

Ymchwiliwch i’ch cwrs

Gwneud yn siŵr eich bod yn dewis y cwrs sy’n iawn i chi yw rhan bwysicaf eich cais. Bydd angen meddwl yn ofalus am sawl penderfyniad:

  • Pa bwnc?
  • Pa gwrs?
  • Llawn amser neu ran amser?
  • Beth am gwrs gradd rhyngosod?
  • Beth yw'r rhagolygon o ran gyrfa?
  • Pa gwrs sy'n angenrheidiol ar gyfer eich syniad am yrfa?

Dechreuwch gydag Offer Chwilio UCAS (dolen Saesneg) er mwyn chwilio am gyrsiau, ac ymchwiliwch yn fanylach o lawer trwy ddefnyddio gwefannau prifysgolion unigol.

Ymchwiliwch i brifysgolion ac ewch i ddiwrnodau agored

Byddwch yn astudio ac yn byw yn y brifysgol a ddewiswch am 3 blynedd neu fwy, felly mae’n bwysig ichi feddwl yn ofalus am eich penderfyniad:

  • A ydych eisiau bod ymhell o’ch cartref neu'n agos ato?
  • A fyddai’n well gennych brifysgol ar gampws neu brifysgol mewn dinas?
  • Pa glybiau neu gyfleusterau prifysgol sy’n bwysig i chi, e.e. clybiau chwaraeon prifysgol?
  • Pa mor ddrud fydd byw yn y dref neu’r ddinas?

Gallwch wneud digonedd o ymchwil ar wefannau prifysgolion, ond nid yw hynny byth cystal ag ymweld â’r brifysgol yn ystod diwrnod agored. Defnyddiwch opendays.com (dolen Saesneg) i weld pryd y mae prifysgolion yn cynnal diwrnodau agored ac ewch i weld drosoch eich hun.

Gallwn eich helpu i baratoi a gwneud yn fawr o ddiwrnodau agored prifysgolion.

Paratowch eich Datganiad Personol

Eich Datganiad Personol yw eich cyfle chi i wneud i’ch cais serennu. Mae eich Datganiad Personol cyn bwysiced â’r cymwysterau a’r graddau a gewch. Dechreuwch trwy baratoi a drafftio eich datganiad yn fuan. Efallai y byddwch angen llunio sawl drafft cyn ichi fod yn fodlon ag ef.

  • Ymchwiliwch i enghreifftiau pwnc-benodol o ddatganiadau personol. Ceir rhai enghreifftiau ar  www.thestudentroom.co.uk ac www.universitycompare.com (dolen Saesneg) ond cofiwch beidio â chopïo. 
  • Ysgrifennwch eich datganiad er mwyn dangos eich addasrwydd a’ch diddordeb yn y cyrsiau yr ydych yn ymgeisio amdanynt. Cofiwch mai un Datganiad Personol yn unig y gallwch ei gyflwyno ar gais UCAS.
  • Gofynnwch i athrawon, ffrindiau a theulu i brawf-ddarllen eich datganiad.
  • Defnyddiwch ein Awgrymiadau i'ch rhoi chi ar ben ffordd
Profiad gwaith a gwirfoddoli

Mae prifysgolion eisiau gweld eich bod wedi ymrwymo i’r cwrs, y pwnc neu’r maes gyrfa. Mae profiad gwaith nid yn unig yn ffordd wych o roi cynnig ar eich syniadau am yrfa, ond hefyd gall helpu i ddatblygu’r sgiliau y byddwch eu hangen a dangos eich angerdd dros y pwnc.

Dewch i wybod sut i wirfoddoli neu gael profiad gwaith.

‘Gweithgareddau uwch-gwricwlaidd’

Ffordd arall o ddangos eich ymrwymiad a’ch angerdd dros y pwnc neu’r cwrs yw trwy fynd i’r afael â gweithgareddau cyfoethogi academaidd neu ‘weithgareddau uwch-gwricwlaidd’. Bydd y rhain yn ychwanegol at eich gwaith cwrs arferol. Gallech wneud y canlynol:

  • Darllen am y pwnc, a sicrhau eich bod yn gyfarwydd â’r materion diweddaraf yn y maes
  • Ymuno â chymdeithasau a mynychu darlithoedd ychwanegol
  • Tanysgrifio i gyfnodolyn neu gylchgrawn perthnasol
  • Neu fe allech hyd yn oed sefydlu eich clwb pwnc-benodol eich hun yn eich ysgol neu eich coleg

Bydd y gweithgareddau hyn nid yn unig yn dangos eich ymrwymiad a’ch cymhelliant, ond hefyd eich bod â meddwl ymchwilgar ac angerdd dros ddysgu.

Cewch fwy o syniadau yn yr erthygl 'The 34 Best Super-Curricular Activities for Applicants to Top Universities'. (dolen Saesneg)

Prawf dawn, prawf derbyn a phortffolios

Gan ddibynnu ar y cwrs a’r brifysgol, efallai y bydd angen ichi sefyll prawf dawn neu brawf derbyn, neu gyflwyno portffolio o’ch gwaith. Dyma rai enghreifftiau:

  • Ar gyfer y rhan fwyaf o gyrsiau Meddyginiaeth, Deintyddiaeth a Gwyddor Milfeddygaeth, fe fydd angen ichi sefyll prawf dawn fel UKCAT neu BMAT 
  • Mae gan Rydychen a Chaergrawnt asesiadau a phrofion derbyn cwrs-benodol 
  • Efallai y bydd yn rhaid cwblhau LNAT ar gyfer cyrsiau yn y Gyfraith
  • Ar gyfer nifer o gyrsiau yn y celfyddydau a chyrsiau creadigol, fel Ffotograffiaeth neu Bensaernïaeth, bydd angen cyflwyno portffolio o’ch gwaith

Edrychwch ar wefan y brifysgol neu UCAS i weld pa brofion neu gyflwyniadau o fath arall sy’n ofynnol ar gyfer eich cwrs, ynghyd â’r amserlenni ar gyfer sefyll y prawf neu gyflwyno gwaith. Beth am ymarfer defnyddio profion enghreifftiol ar-lein. Rhowch ddigon o amser i chi eich hun ar gyfer paratoi’r portffolios neu’r cyflwyniadau eraill angenrheidiol.

Gwiriwch yr amserlenni ar gyfer y profion neu ar gyfer cyflwyno gwaith. Cofiwch fod y rhain yn aml yn digwydd cyn dyddiad cau UCAS.

Cyfweliadau a chlyweliadau

Efallai y byddwch yn cael eich gwahodd i gyfweliad neu glyweliad. Bydd hyn yn amrywio, gan ddibynnu ar y pwnc a’r brifysgol. Mae rhai enghreifftiau’n cynnwys:

  • Ar gyfer y rhan fwyaf o gyrsiau Meddyginiaeth, Deintyddiaeth a Gwyddor Milfeddygaeth, byddwch yn cael eich gwahodd i gyfweliad
  • Efallai y bydd yn rhaid mynd i gyfweliad ar gyfer cyrsiau galwedigaethol eraill, fel Nyrsio
  • Mae Rhydychen a Chaergrawnt yn cynnal cyfweliadau
  • Fel arfer bydd angen mynd i glyweliad ar gyfer cyrsiau yn y Celfyddydau Perfformio

Gwiriwch y manylion derbyn ar gyfer y brifysgol a’r cwrs yr ydych yn ei ystyried.
Dechreuwch baratoi ar gyfer gyfweliad neu glyweliad. (dolen Saesneg)

Geirda

Cofiwch y byddwch hefyd angen geirda gan eich ysgol neu eich coleg.

Dewch i wybod mwy am sut i gael geirda (dolen Saesneg).


Pa gwrs? Pa brifysgol? 

(Mae'r dolenni hyn yn Saesneg yn unig)


Paratoi ar gyfer prawf dawn a phrawf derbyn

(Mae'r dolenni hyn yn Saesneg yn unig)


Mwy o wybodaeth

(Mae'r dolenni hyn yn Saesneg yn unig)


Gweld y fideos ac ystyried beth nesaf ar ôl eich gradd? 


Efallai i chi hefyd hoffi:


Opsiynau yn 18

Eisiau meddwl eto am eich opsiynau? Cymerwch olwg ar eich holl opsiynau yn 18.