Skip to main content
BETA

Rydych chi’n edrych ar fersiwn newydd o wefan Gyrfa Cymru. Am y wefan newydd.

Cael gwybodaeth am gymwysterau

Mae pob cymhwyster yn y DU, o TGAU i Ddoethuriaeth, yn ffitio i 8 lefel. 

Mae’n bwysig gwybod ar ba lefel mae cymwysterau oherwydd:

Mae rhai hysbysebion swydd yn gofyn am lefelau penodol e.e.

Cynorthwyydd Dysgu Lefel 3

  • Rydyn ni’n chwilio am berson ymroddgar, llawn hwyl, sy’n gallu ysgogi ei hun i ddod â’i ddoniau a’i sgiliau i’n plant a’n cymuned...
  • Mae’n rhaid bod gan ymgeiswyr gymhwyster Lefel 3 perthnasol mewn gofal plant...

Gall rhai cyrsiau coleg ofyn am lefelau penodol e.e. 

Cwrs BTEC (peirianneg)

  • Fel arfer, bydd angen o leiaf un o’r cymwysterau Lefel 2 canlynol arnoch:
    • Tystysgrif Gyntaf BTEC neu Ddiploma mewn pwnc perthnasol
    • O leiaf 4 TGAU gradd A*-C gan gynnwys Mathemateg 

Gwybod mwy am y gwahanol gymwysterau:

TGAU

Mae cyrsiau TGAU yn rhai lefel 1 neu 2 (yn dibynnu ar y radd a enillir) ac maent ar gael mewn amrywiaeth eang o bynciau academaidd a galwedigaethol.

Dyma’r prif gymhwyster cyffredinol a ddilynir gan bobl ifanc 16 oed ac fe’u defnyddir fel cymwysterau mynediad ar gyfer swyddi neu astudiaeth neu hyfforddiant pellach. (Maent hefyd ar gael i fyfyrwyr o unrhyw oedran mewn ysgolion, colegau neu ganolfannau dysgu eraill.)

Maent fel arfer yn cael eu cyflawni mewn 2 flynedd ac maent wedi’u graddio o A* - G yng Nghymru:

Graddau A*-C  (Lefel 2 y Fframwaith Cymwysterau a Chredydau)

Graddau D-G  (Lefel 1 y Fframwaith Cymwysterau a Chredydau) 

Graddau U = Methiant Annosbarthedig. 

Yn Lloegr, mae arholiadau TGAU wedi’u graddio ar raddfa o 9-1. Yn dibynnu ar y cyrsiau TGAU a gynigir yn eich ysgol neu’ch coleg chi, mae’n bosibl y bydd rhai o’ch cymwysterau TGAU yn cael eu graddio ar sail 9-1.

Gyda rhai cyrsiau TGAU, bydd yr holl arholiadau'n cael eu cynnal ar ddiwedd y cwrs (cymwysterau llinellol). Bydd rhai yn fodiwlaidd. 

Rhaid i fyfyrwyr aileistedd eu holl arholiadau wrth aileistedd TGAU llinellol; gellir ailddefnyddio marciau o asesiadau nad ydynt yn arholiadau. 

Sut mae graddau A*- G TGAU yn cymharu â graddau rhifau TGAU.

TGAU
Lloegr Cymru Lefel Fframwaith Cymwysterau a Chredydau Cymru

9
8
7

A*

A

Lefel 2 Fframwaith Cymwysterau a Chredydau Cymru

6
5
4

B

C

Lefel 2 Fframwaith Cymwysterau a Chredydau Cymru

3
2
1

D
E
F
G

Lefel 1 Fframwaith Cymwysterau a Chredydau Cymru

U U Annosbarthedig
Lefelau UG a Safon Uwch

Y lefelau UG a Safon Uwch yw’r prif gymwysterau cyffredinol ar Lefel 3 ac maent ar gael mewn amrywiaeth eang o bynciau academaidd a galwedigaethol.

Maent fel arfer yn cael eu cymryd yn 16-19 oed, ac fe’u defnyddir i gael mynediad i gyrsiau addysg uwch ar lefelau 4,5 neu 6, hyfforddiant pellach neu swydd. Mae cyrsiau Safon Uwch yn llwybr traddodiadol ar gyfer mynediad i’r brifysgol neu addysg uwch a hyfforddiant ar gyfer nifer o broffesiynau.

Mae cyrsiau Safon Uwch fel arfer yn cael eu cwblhau mewn dwy flynedd ac maent wedi’u graddio A* i E.

Yng Nghymru, gellir cwblhau cyrsiau Safon Uwch mewn dwy ran; blwyddyn un yw’r Uned UG (Uwch Gyfrannol). Mae’r cymhwyster UG yn gymhwyster unigol ac mae hefyd yn cyfrannu 40% tuag at y Safon Uwch llawn. I gyflawni’r Safon Uwch llawn, mae angen i fyfyrwyr gwblhau uned A2 ym mlwyddyn 2. Yn Lloegr, nid yw’r cymhwyster UG yn cyfrannu at y Safon Uwch llawn. 

Nodweddion cyffredin yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. 

  • Graddau A – E  ar gyfer lefelau UG 
  • Graddau A*-E ar gyfer Safon Uwch 
  • Mae cynnwys y lefelau UG oddeutu hanner cynnwys y Safon Uwch
Cipolwg ar gymharu Lefelau UG a Safon Uwch yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon

UG a Safon Uwch - Lloegr 

Ofqual

UG a Safon Uwch - Cymru

Cymwysterau Cymru

UG a Safon Uwch - Gogledd Iwerddon

CEA 

Ni fydd lefelau UG yn cyfrannu at y canlyniadau Safon Uwch

Mae pob arholiad yn cael ei sefyll ar ddiwedd y cwrs (cymwysterau llinellol)

Rhaid i fyfyrwyr aileistedd eu holl arholiadau wrth ailwneud y cymhwyster; gellir ailddefnyddio marciau o asesiadau nad ydynt yn arholiadau

Mae lefelau UG yn cyfrannu 40% at gfanswm marciau'r Safon Uwch llawn.

Unwaith yn unig gall myfyrwyr aileistedd unedau Lefel UG a Safon Uwch.

Gellir sefyll arholiadau UG ar ddiwedd y cwrs UG neu ochr yn ochr ag A2.

BTEC (Cymwysterau Galwedigaethol)

Mae cymwysterau BTEC yn rhai galwedigaethol neu’n seiliedig ar yrfa. Maent wedi’u dylunio ar gyfer dysgwyr sydd â diddordeb mewn diwydiant neu faes gwaith penodol, ac maent ar gael ar bob lefel o ddysgu; ar gyfer myfyrwyr sy’n ei chael yn anodd dysgu i weithwyr proffesiynol gyda sgiliau uchel.

Mae dros 2,000 o gymwysterau BTEC ar draws 16 o sectorau, gan gynnwys:

  • Gwyddoniaeth gymhwysol
  • Celf a Dylunio
  • Busnes
  • Gofal Plant
  • Adeiladu
  • Peirianneg
  • Cyfryngau
  • Iechyd a Gofal Cymdeithasol
  • Lletygarwch
  • TGCh
  • Ar y tir
  • Celfyddydau Perfformio
  • Gwasanaethau Cyhoeddus
  • Chwaraeon
  • Teithio a Thwristiaeth

Mae cymwysterau BTEC ar gael o’r lefel mynediad i lefel 8, ac maent yn amrywio o Ddiplomâu a Thystysgrifau Cyflwyniadol BTEC i Ddiplomâu, Tystysgrifau a Gwobrau Uwch BTEC.  
 
Gellir eu hastudio ochr yn ochr â chymwysterau academaidd; ar lefel 2 ochr yn ochr â chyrsiau TGAU neu ar lefel 3 ochr yn ochr â chyrsiau Safon Uwch. Gellir eu hastudio hefyd fel rhan o raglen hyfforddiant fel prentisiaeth neu tra mewn swydd i feithrin sgiliau arbenigol. 

Mae’r cyrsiau BTEC wedi’u rhannu’n unedau. O fewn pob lefel, mae’r cymwysterau ar gael mewn amrywiaeth o feintiau, a gellir cymryd cyfnodau gwahanol o amser i’w cwblhau. 

Gellir eu hastudio’n llawn amser neu’n rhan amser, mewn ysgolion a cholegau ac yn y gwaith. 
 

Sut mae cyrsiau BTEC yn cael eu graddio? 

Mae cyrsiau BTEC yn cael eu graddio gan ddefnyddio’r raddfa Pasio (Pass - P), Clod (Merit - M), Rhagoriaeth (Distinction - D) a Rhagoriaeth* (D*).

Gan ddibynnu ar hyd y cwrs, mae’n bosibl y byddwch yn cael un, dwy neu dair gradd. Os na fydd y eich gwaith o safon ddigon uchel i basio gyda gradd P, byddwch yn cael U, sy’n golygu ‘Annosbarthedig’.

"A allaf gael mynediad i brifysgol gyda BTEC?  -  Gallwch"

Mae’r cymhwyster BTEC Cenedlaethol yn gymwys ar gyfer pwyntiau UCAS yn dibynnu ar y math o gymhwyster a’r radd a gewch, ac fe’i derbynnir gan nifer o brifysgolion ar gyfer cael mynediad i wahanol gyrsiau.
  
Enghraifft: Mae gradd D* mewn Diploma Atodol BTEC yn cyfateb i A* mewn Safon Uwch ac mae gradd D*D* mewn Diploma BTEC yn cyfateb i radd A* mewn 2 gymhwyster Safon Uwch. 
 

Mae mwy o wybodaeth am UCAS a phwyntiau UCAS ar gael yma www.ucas.com. (dolen Saesneg)

Fframwaith Cymwysterau a Chredydau (FfCCh) /NVQ (Cymwysterau Galwedigaethol)

Mae FfCCh/NVQ yn gymwysterau seiliedig ar waith ac maent ar gael ar bob lefel.

Fodd bynnag, mae’r rhan fwyaf o gymwysterau FfCCh/NVQ ar gael o lefelau 1 i 5.   

Fe’u darperir yn y gweithle neu rywle sydd wedi’i osod fel gweithle.

Nid ydynt wedi’u cysylltu â chwrs neu raglen benodol. Mae cymwysterau FfCCh/NVQ wedi’u rhannu’n unedau bach fel y gellir eu darparu a’u hasesu mewn modd hyblyg yn y gweithle. 

Mae cymwysterau FCCh/NVQ yn cwmpasu amrywiaeth enfawr o yrfaoedd.

Bagloriaeth Cymru

Mae’r Cymhwyster Bagloriaeth Cymru yn gymhwyster ar gyfer myfyrwyr 14 – 19 oed yng Nghymru.

Nid oes arholiadau ym Magloriaeth Cymru. Mae’r cymhwyster yn cynnwys ‘Tystysgrif Her Sgiliau’ ochr yn ochr â chymwysterau cefnogol. 

Mae dysgwyr yn ymgeisio gwahanol heriau ac yn creu portffolio o dystiolaeth sy’n dangos sut y datblygwyd y sgiliau i ennill y Dystysgrif.

Ochr yn ochr maent yn astudio detholiad o gyrsiau TGAU, Safon Uwch a chymwysterau galwedigaethol er mwyn cael eu gwobrwyo gyda’r fagloriaeth ar wahanol lefelau.   

Mae Bagloriaeth Cymru’n cael ei gwobrwyo ar dair lefel:

Bagloriaeth Cymru Sylfaenol:   (lefel 1 – cyfateb i raddau TGAU D, E, F, G)
I’w defnyddio yng Nghyfnod Allweddol 4 neu ar ôl 16 oed.  Pas wedi’i Raddio* a Phas

Bagloriaeth Cymru Genedlaethol:   (lefel 2 – cyfateb i raddau TGAU A*, A, B, C). I’w defnyddio yng Nghyfnod Allweddol 4 neu ar ôl 16 oed.  Graddau A*, A, B ac C

Bagloriaeth Cymru Uwch: (lefel 3 – cyfateb i Safon Uwch/Lefel UG)
I’w defnyddio ar ôl 16 yn unig – bydd y rhain yn cael gradd A*-E

Mae'r cymhwyster yn cynnwys 3 elfen. 

  • Tystysgrif Her Sgiliau: Mae hwn yn brosiect unigol sy’n cael ei raddio
  • TGAU Iaith Saesneg neu Gymraeg a TGAU Mathemateg - Rhifedd
  • Cymwysterau atodol fel cymwysterau TGAU, Safon Uwch/UG a chymwysterau galwedigaethol 

Tystysgrif Her Sgiliau

Mae’r Dystysgrif Her Sgiliau yn cynnwys pedwar asesiad y mae’n rhaid i’r dysgwr eu cwblhau.

Prosiect Unigol: Mae hwn yn aseiniad sy’n seiliedig ar ymchwil ar bwnc a ddewisir gan y dysgwr. Bydd y dysgwr yn gweithio’n annibynnol ar y prosiect hwn i arddangos y wybodaeth a’r sgiliau i gynhyrchu ymchwiliad ysgrifenedig neu gynnyrch a gefnogir gan waith ymchwil ysgrifenedig. 

Her Menter a Chyflogadwyedd: Mae’r her hon yn annog dysgwyr i ddatblygu sgiliau entrepreneuraidd i wella cyflogadwyedd. Gall yr heriau hyn gael eu dylunio gan ganolfan (ysgol/coleg), cyflogwr neu sefydliadau cenedlaethol eraill.

Her Dinasyddiaeth Fyd-eang: Bydd dysgwyr yn arddangos dealltwriaeth o fater byd-eang a byddant yn ymateb yn briodol iddo. Gellir dylunio’r heriau hyn yn lleol neu’n genedlaethol. 

Her Gymunedol: Bydd dysgwyr yn nodi, datblygu a chyfranogi mewn cyfleoedd a fydd yn dod â budd i’r gymuned. Gellir dylunio’r heriau hyn yn lleol neu’n genedlaethol. 

Sgiliau Hanfodol a Chyflogadwyedd

Mae’r Fagloriaeth yn asesu sgiliau hanfodol a ddatblygir mewn ffyrdd gwahanol drwy’r Dystysgrif Her Sgiliau neu ar draws y cwricwlwm. Sgiliau fel:

  • Llythrennedd
  • Rhifedd
  • Llythrennedd Digidol
  • Meddwl Beirniadol a Datrys Problemau
  • Cynllunio a Threfnu
  • Creadigrwydd ac Arloesedd
  • Effeithiolrwydd Personol 

"A allaf fynd i’r brifysgol gyda Bagloriaeth Cymru?  - Gallwch, i rai. "

Gallwch ddefnyddio Bagloriaeth Cymru i fynd ymlaen i addysg uwch. Byddai myfyriwr sy’n astudio Bagloriaeth ar lefel uwch fel arfer yn cyfuno ei astudiaethau gyda dau neu fwy o gyrsiau Safon Uwch, neu gyrsiau cyfatebol.

O ran A*ar lefel uwch, mae’r Dystysgrif Her Sgiliau yn werth 56 o bwyntiau tariff; sy’n cyfateb i A* mewn Safon Uwch.

Gwiriwch gydag UCAS (dolen Saesneg) a’ch Prifysgol ddewisiedig os yw Bagloriaeth Cymru’n cael ei derbyn i gael mynediad i’ch cwrs dewisiedig. 

Canfyddwch fwy am Gymhwyster Bagloriaeth Cymru (CBAC) 

Canfyddwch fwy am y Fagloriaeth Ryngwladol  (dolen Saesneg) 

Sgiliau Hanfodol Cymru (Sgiliau Allweddol neu Sgiliau Sylfaenol yn flaenorol)

Mae cymwyseddau Sgiliau Hanfodol wedi’u dylunio i ddatbygu’r sgiliau y mae dysgwyr eu hangen ar gyfer dysgu pellach, cyflogaeth a bywyd. 

  • Maent wedi’u hanelu at bobl ifanc 14 – 19 oed mewn ysgolion a cholegau ac, fel Bagloriaeth Cymru, maent yn cael eu hastudio fel arfer ochr yn ochr â phynciau eraill fel TGAU, Safon Uwch neu gyrsiau galwedigaethol. 
  • Gellir eu hastudio o lefel mynediad 1 i lefel 3

Mae dysgwyr yn astudio Sgiliau Hanfodol mewn:

  • Cyfathrebu
  • Defnyddio Rhifau
  • Llythrennedd Digidol
  • Meddwl Beirniadol a Datrys Problemau
  • Cynllunio a Threfnu
  • Creadigrwydd ac Arloesedd
  • Effeithiolrwydd Personol

Dysgwch fwy am gymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru.

Cymwysterau, Achrediadau a Chofrestriadau Proffesiynol a Diwydiant

Mae Cymwysterau Proffesiynol a Diwydiant ar gael ar draws pob maes gwaith ar lefelau amrywiol. 

Mewn rhai swyddi, diwydiannau a meysydd gwaith, mae achrediadau a chofrestriadau yn ofyniad statudol, er enghraifft, mewn nifer o rolau gofal iechyd a’r diwydiant cyllid. Mae’r cymwyseddau hyn wedi’u achredu a’u rheoleiddio gan gyrff proffesiynol ym mhob diwydiant neu faes gwaith. 

Enghreifftiau o Gymwyseddau, Achrediadau a Chofrestriadau Diwydiant:
(Mae rhaid o'r dolenni isod yn Saesneg yn unig)

  • Mae’n rhaid i feddygon gofrestru gyda’r Cyngor Meddygol Cyffredinol i ymarfer  
  • Dylai Syrfewyr Siartredig fod â chymhwysedd RICS  (Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig) 
  •  Mae angen i nyrsys a bydwragedd gofrestru gyda’r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth
  • Mae angen i Gyfrifwyr Siartredig gael cymhwysedd ACA (Cyfrifydd Siartredig Cyswllt) 
  • Nid oes yn rhaid i weithwyr adeiladu â sgiliau fod â cherdyn CSCS (Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu) yn gyfreithiol i weithio ar safleoedd adeiladu, ond fel arfer mae angen iddynt ei gael. 
  • Rhaid i Beirianwyr Nwy gofrestru ar y Gofrestr Diogelwch Nwy yn gyfreithiol  
Cymwysterau Addysg Uwch

Cymhwyster addysg uwch sydd ar gael yn y DU yw Tystysgrif Addysg Uwch. Mae’n gymhwyster cydnabyddedig.

Mae’n gyfystyr â chymhwyster lefel 4 a gellir ei gwblhau mewn blwyddyn (llawn amser) neu ddwy flynedd (rhan amser) 

Mae’n rhaid i fyfyrwyr gael lleiafswm o 120 credyd i ennill y cymhwyster. Mae credydau’n seiliedig ar bob modiwl unigol sy’n cael ei astudio ar y pwnc.

Gall cwblhau Tystysgrif Addysg Uwch arwain at ail flwyddyn o Radd Sylfaen addas neu gynllun gradd anrhydedd.

Esiamplau o gyrsiau Tystysgrif Addysg Uwch: 

  • Y Celfyddydau a’r Dyniaethau
  • Cyfrifiadura a TGCh a Chynllunio
  • Ysgrifennu Creadigol
  • Archeoleg
  • Adeiladu
  • Gofal Cymdeithasol 
Diploma Cenedlaethol Uwch / Tystysgrif Genedlaethol Uwch (HND/HNC)

Mae Diplomas Cenedlaethol Uwch a Thystysgrifau Cenedlaethol Uwch yn rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth angenrheidiol i ddysgwyr i weithio mewn swydd neu sector penodol.

Mae’n cymryd dwy flynedd i gwblhau Diploma Cenedlaethol Uwch ar sail llawn amser. Gellir astudio’n rhan amser hefyd ond bydd y cymhwyster yn cymryd amser hirach i’w gwblhau. Gellir ychwanegu at DCU a TGU i ennill gradd Baglor.

Mae’n cymryd blwyddyn i gwblhau Tystysgrif Genedlaethol Uwch ar sail llawn amser a dwy flynedd yn rhan amser. Gall TGU arwain at radd Sylfaen.

Gellir astudio Diploma Cenedlaethol Uwch a Tystysgrif Genedlaethol Uwch mewn sawl pwnc, gan gynnwys:

  • Rheoli Busnes
  • Iechyd a Gofal Cymdeithasol
  • Peirianneg Meddalwedd
  • Peirianneg Gyffredinol
  • Technoleg Drydanol ac Electronig
Graddau

Cymhwyster addysg uwch yw gradd.

Mae sawl lefel wahanol o radd:

Gradd Sylfaen: Mae gradd sylfaen yn gyfuniad o waith academaidd a phrofiad gwaith er mwyn ennill sgiliau gwaith. Mae’n gyfystyr â chymhwyster lefel 5. 
Mae’n ddefnyddiol i’r rheini sydd eisiau astudio wrth weithio neu ennill sgiliau proffesiynol a thechnegol i hybu eu gyrfa.
Fel arfer, mae’n cymryd dwy flynedd o astudio llawn amser i gwblhau Gradd Sylfaen neu’n hirach i fyfyrwyr rhan amser. Gellir ychwanegu at Radd Sylfaen i ennill gradd anrhydedd lawn.

Gradd Baglor: Dyma’r math mwyaf cyffredin o radd israddedig. Mae’n gymhwyster lefel 6 a gellir astudio gwahanol bynciau.
Bydd y math o radd Baglor a enillir yn dibynnu ar y pwnc a astudir. Y graddau Baglor mwyaf cyffredin yw, Baglor yn y Celfyddydau (BA), Baglor mewn Gwyddoniaeth (BSc), Baglor yn y Gyfraith (LLB) a Baglor mewn Peirianneg (BEng).

  • Gall gymryd 3-4-blynedd i gwblhau gradd Baglor.
  • Er mwyn dechrau gradd Baglor bydd rhaid i chi ddiwallu anghenion mynediad y sefydliad ar gyfer eich cwrs dewisol. Bydd y nifer o bwyntiau tariff UCAS (dolen Saesneg) fydd angen arnoch chi i gael lle ar gwrs penodol yn dibynnu ar ofynion y cwrs a’r brifysgol
  • Fel arfer, mae angen o leiaf Radd Baglor i gael swydd mewn sawl proffesiwn.
     

Gradd Meistr: Gellir astudio gradd Meistr ar ôl ennill gradd Baglor. Mae’n gymhwyster lefel 7 a chaiff ei ennill gan fyfyrwyr sy’n dangos lefel uchel iawn o wybodaeth am bwnc neu faes. Mae’n gwrs dwys ac mae’n aml yn cynnwys ymchwil penodol ac ysgrifennu traethawd hir.
Mae gradd Meistr yn parhau 1-2 flynedd. Gall astudio’n rhan amser gymryd rhwng 2-4 blynedd.

Bydd y math o radd Meistr a enillir yn dibynnu ar y pwnc a astudir. Y graddau Meistr mwyaf cyffredin yw; Meistr yn y Celfyddydau (MA) a Meistr mewn Gwyddoniaeth (MSc).

Doethuriaeth (PhDs):  Mae PhD yn golygu ‘Doethur mewn Athroniaeth’. Gradd i raddedigion yw PhD, ac mae’n gyfystyr â chymhwyster lefel 8. Dyma’r lefel uchaf o radd.
Mae’r radd yn cynnwys ymchwil annibynnol ar destun gwreiddiol a gall gymryd 3 neu ragor o flynyddoedd i’w chwblhau. Mae’n cynnwys ysgrifennu traethawd hir neu draethawd ymchwil yn seiliedig ar ymchwil eang a gwreiddiol.
Mae’r rhan fwyaf o brifysgolion yn disgwyl i ddysgwyr gael gradd Baglor a Meistr, ond efallai y gwnaiff rhai dderbyn gradd Baglor.

Diplomau a Thystysgrifau i Raddedigion

Mae diplomas a thystysgrifau i raddedigion yn gyfystyr â chymhwyster lefel 7. Maen nhw’n galluogi dysgwyr i adeiladu ar y sgiliau a’r wybodaeth a gafwyd yn eu gradd ac maen nhw ar gael mewn amrywiaeth o bynciau. 
Fel arfer, mae diploma llawn amser i raddedigion yn cymryd rhyw 30 wythnos i’w gwblhau.
Fel arfer, mae tystysgrif lawn amser i raddedigion yn cymryd rhyw 15 wythnos i’w chwblhau.

Mae rhai swyddi’n gofyn am gymhwyster ôl-raddedig fel Dysgu (Tystysgrif Addysg i Raddedigion) a Gwaith Cymdeithasol (PGDip mewn Gwaith Cymdeithasol).


Efallai i chi hefyd hoffi: