Skip to main content
BETA

Y safle BETA fydd ein safle byw newydd o 4 Tachwedd. Archwiliwch nawr. Am y wefan newydd.

Technegau cyfweld

Y cyfweliad yw eich cyfle i argyhoeddi’r cyflogwr mai chi yw’r person gorau ar gyfer y swydd. Os ydych wedi cael cynnig cyfweliad, rydych eisoes wedi llwyddo yn y cam cyntaf.

Mae’n bwysig paratoi

Gallwch wneud llawer cyn y cyfweliad i wella eich siawns o gael swydd:

Ymchwiliwch i'r swydd

Edrychwch ar y swydd-ddisgrifiad yn ofalus a nodwch y prif sgiliau y mae’r cyflogwr yn gofyn amdanynt. Yna cyfatebwch y sgiliau hyn i’r hyn y gallwch chi ei wneud.

Ymchwiliwch i’r cwmni. Edrychwch ar ei wefan a’r hyn y mae’n ei wneud. Maent yn debygol o ofyn i chi beth rydych yn ei wybod am eu cwmni.

Gwybod beth yw eich sgiliau

Bydd cyflogwyr am wybod:

  • Ai chi yw’r person iawn ar gyfer y swydd?
  • Allwch chi wneud y swydd?

Mae angen i bob cwestiwn y byddwch yn ei ateb ganolbwyntio ar ddangos i gyflogwyr mai chi yw’r person iawn ar gyfer y swydd ac y gallwch wneud y swydd, neu bod gennych y potensial i wneud y swydd.

Sicrhewch fod eich atebion yn canolbwyntio ar eich:

C -  Cryfderau
Beth ydych chi’n gallu ei wneud yn dda? Pa bethau da y byddai eich cyn-gyflogwr wedi’i ddweud amdanoch? Beth mae eich ffrindiau a’ch teulu yn dweud wrthych eich bod yn gallu ei wneud yn dda?

P -  Profiad
Pa dasgau ydych chi wedi’u gwneud sy’n cyfateb i’r tasgau yn y swydd-ddisgrifiad?

H - Hyfforddiant

Pa hyfforddiant ydych chi wedi'i wneud y mae'r swydd yn gofyn amdano? Pa gymwysterau sydd gennych?

Cofiwch C P H yn eich cyfweliad oherwydd bydd hyn yn eich helpu i sicrhau bod eich atebion yn canolbwyntio ar eich cryfderau, eich profiad a’ch hyfforddiant.

Ymarfer cwestiynau cyfweld

Gofynnir gwahanol fathau o gwestiynau i chi yn cynnwys cwestiynau uniongyrchol a chwestiynau cymhwysedd. Weithiau bydd cyflogwyr yn gofyn cwestiynau anarferol i chi hefyd. Felly byddwch yn barod.

Rhai cwestiynau cyffredin mewn cyfweliad

Cyfeiriwch at eich cryfderau, profiad a hyfforddiant wrth ateb y cwestiynau hyn:

  • Dywedwch wrthyf amdanoch chi eich hun
  • Pam ydych chi eisiau’r swydd hon?
  • Beth yw eich cryfderau?
  • Pa brofiad perthnasol sydd gennych?
  • Pam ddylen ni eich cyflogi chi?
  • Beth sy’n rhoi cymhelliant i chi?
  • Beth yw eich prif gyflawniad?

(Byddai cyflogwyr yn disgwyl rhywfaint o ailadrodd. Yn wir, efallai y byddant yn cofio eich sgiliau’n well os byddwch yn eu hailadrodd.)

Cwestiynau Cymhwysedd

Cwestiynau cymhwysedd yw cwestiynau sy’n gofyn i chi roi enghreifftiau o’ch gwaith neu fywyd. Dyma’ch cyfle i brofi fod gennych y sgiliau a‘r profiad cywir.

Dod o hyd i help i ateb cwestiynau cymhwysedd: Sut i ateb cwestiynau cyfweliad gydag enghreifftiau o'ch bywyd.

Cwestiynau eraill

Beth yw eich gwendidau?
Meddyliwch am wendid a allai fod yn gryfder hefyd. Mae cyflogwyr yn disgwyl ateb o ddifrif i’r cwestiwn hwn. Paratowch eich ateb cyn y cyfweliad.

Beth ydych chi’n ei wybod am ein cwmni?
Dylech bob amser ymchwilio i’r cwmni cyn y cyfweliad. Edrychwch ar-lein ar wefan y cwmni a darllenwch y wybodaeth sydd ar gael. Ceisiwch roi enw’r cwmni mewn peiriant chwilio, neu safle newyddion. Os yw’n newyddion cadarnhaol gallech grybwyll hwn yn y cyfweliad.

Oes gennych chi unrhyw gwestiynau i ni?
Atebwch oes bob amser.

Mae’r cwestiynau y gallech eu gofyn yn dibynnu ar y swydd, ond dyma rai awgrymiadau:

  • Faint o bobl y byddwn yn gweithio gyda hwy?
  • I bwy fyddwn i’n adrodd?
  • Allwch chi ddweud wrthyf am ddiwrnod arferol yn y swydd hon?

Peidiwch â holi am gyflog, gwyliau, salwch neu gynlluniau pensiwn. Mae’r rhain yn gwestiynau y byddech yn eu gofyn pe baent yn cynnig y swydd i chi.

Ceisiwch ymarfer ateb cwestiynau ar lafar. Os gallwch, ceisiwch ymarfer gyda rhywun all roi adborth gonest i chi. Y mwyaf y byddwch yn ymarfer, y mwyaf hyderus y byddwch yn y cyfweliad.

Disgwyliwch wahanol fathau o gyfweliadau

Mae arddulliau cyfweliad yn amrywio. Gall rhai fod yn sgwrs anffurfiol, gall eraill fod yn ffurfiol.

Gall y sawl sy’n cyfweld amrywio o 1 person i banel o hyd at 8 person. Efallai y cewch gyfres o gyfweliadau gyda phobl wahanol, a’r cyfan ar yr un diwrnod o bosibl.

Peidiwch â chynhyrfu a chofiwch eu bod yn cyfweld â chi am eu bod yn hoffi eich cais neu eich CV.

Mathau o gyfweliadau

Profion

Efallai y gofynnir i chi wneud prawf ar ddiwrnod y cyfweliad. Gall fod yn brawf doniau neu’n brawf ymarferol sy’n berthnasol i’r math o waith.

Cyflwyniadau

Efallai y bydd angen i chi wneud cyflwyniad ar bwnc sy’n berthnasol i’r swydd rydych yn gwneud cais amdani. Cewch wybod am hyn ymlaen llaw fel arfer. Sicrhewch fod unrhyw offer fydd ei angen arnoch ar gael.

Gweithgareddau Grŵp

Efallai y bydd yn rhaid i chi gymryd rhan mewn gweithgareddau grŵp gydag ymgeiswyr eraill. Mae cyfweliadau grŵp yn profi eich gallu i weithio mewn tîm, eich sgiliau cyfathrebu, eich blaengaredd neu allu i arwain eraill.

Sicrhewch eich bod yn gwrando ar eraill yn eich grŵp ac yn ystyried eu safbwyntiau, ond cofiwch hefyd sicrhau eich bod yn rhannu ac yn cyfrannu syniadau.

Darganfod ble mae'r cyfweliad

Sicrhewch eich bod yn gwybod ble mae’r cyfweliad. Efallai y gallech fynd yno cyn y cyfweliad ei hun er mwyn dod o hyd i’r lleoliad a gweld faint o amser mae’n ei gymryd i deithio yno.
 
Dod o hyd i leoliadau cyfweliad ar Google Maps

Gwisgo'r dillad cywir

Mae’r argraff gyntaf yn bwysig. Felly sicrhewch eich bod yn gwisgo dillad smart. Pa bynnag fath o swydd y byddwch yn gwneud cais amdani, bydd hyn yn dangos eich bod o ddifrif ynglŷn â chael y swydd. Sicrhewch fod yr argraffiadau cyntaf hynny yn gadarnhaol.


Defnyddio profiadau bywyd i ateb cwestiynau cyfweliad

Gwybod sut i ateb cwestiynau cyfweld gydag enghreifftiau bywyd go iawn (cwestiynau cymhwysedd). Gweld enghreifftiau o gwestiynau ac atebion.

Cyfweliadau fideo a ffôn

Cael help i baratoi ar gyfer cyfweliadau fideo a ffôn. Mae paratoi ar gyfer cyfweliadau fideo a ffôn yr un mor bwysig â chyfweliadau wyneb yn wyneb.

Prif awgrymiadau cyfweld

Dod i wybod beth yw prif awgrymiadau cyfweld gan gyflogwyr.

1:35


Efallai i chi hefyd hoffi

Creu CV

Sicrhewch fod eich CV cystal ag y gall fod. Cewch wybod beth i'w gynnwys yn eich CV, gweld esiamplau o CV, a lawrlwytho ein Canllaw i lunio CV.

Ysgrifennu ceisiadau

Ysgrifennwch gais sy'n sicrhau cyfweliad ichi. Cewch gymorth am ateb cwestiynau penodol, a chewch weld enghreifftiau.

Llythyrau Cais ac e-byst

Gwnewch argraff gyntaf dda yn eich e-bost neu lythyr eglurhaol gyda'n cymorth ni.

Paratoi ar gyfer asesiad

Cewch wybod beth sydd ynghlwm wrth brofion dewis ac asesu ar gyfer swyddi gan gynnwys ble i gael profion ymarfer. Paratowch yn dda er mwyn perfformio'n dda.