Skip to main content
BETA

Rydych chi’n edrych ar fersiwn newydd o wefan Gyrfa Cymru. Am y wefan newydd.

Dod o hyd i swyddi ar-lein

10 ffordd wych i ddod o hyd i gwmni i weithio iddo:

Peiriannau chwilio am swyddi ar-lein

Y ffordd amlwg i ddod o hyd i swyddi gwag yw defnyddio gwefannau swyddi ar-lein (bydd rhai o'r rhain yn ddolenni Saesneg yn unig), fel Indeed, Reed, Monster ac Find a job, gweler mwy...

Ond gallwch hefyd ddefnyddio gwefannau swyddi ar-lein i’ch mantais hyd yn oed os na allwch ddod o hyd i swydd sy’n addas i chi. Gwnewch nodyn o enwau a manylion cyflogwyr y mae gennych ddiddordeb ynddyn nhw. Yna, gallwch gysylltu’n uniongyrchol â nhw gyda’ch CV ac e-bost/llythyr yn egluro eich sgiliau a’ch profiad. Os ydyn nhw’n hysbysebu un swydd, mae’n bosibl y bydd ganddyn nhw swyddi sydd heb eu hysbysebu.   

Gwefannau cyflogwyr

Mae nifer o gyflogwyr yn dal i recriwtio drwy eu gwefannau eu hunain. Felly, mae angen i chi wybod sut i’w canfod. 

Mae peiriannau chwilio am swyddi ar-lein yn ffordd dda o ganfod cyflogwyr a’u gwefannau. Mae cyflogwyr mawr fel  y GIG  a Chynghorau hefyd yn hysbysebu ar eu gwefannau eu hunain.

Defnyddiwch gyfeiriaduron busnes lleol ar-lein

Mae Cyfeiriaduron Busnes Ar-lein yn aml ar gael ar wefannau cynghorau ac mae eraill ar gael ar wefannau ar wahân. 

Gall Cyfeiriaduron Busnes Lleol Ar-lein roi rhestrau i chi o’r cwmnïau yn eich ardal leol, gan roi mynediad i chi i’w manylion cyswllt, fel y gallwch gysylltu â nhw i ofyn am swydd.  

Dechreuwch chwilio ar Cyfeiriadur Busnes Ar-lein Busnes Cymru.

Chwilio am gwmnïau drwy sefydliadau masnach, cymdeithasau neu ffederasiynau

Wrth edrych am yrfa benodol mewn diwydiant penodol, mae defnyddio gwefannau sefydliadau a masnach yn ffordd wych o ganfod cyflogwyr  posibl. Mae taflenni Gwybodaeth am Swyddi yn cynnwys rhestr o enwau cyswllt defnyddiol sy’n cynnwys sefydliadau sector a chymdeithasau. 

Gallwch hefyd chwilio am sefydliadau sy’n gysylltiedig â math penodol o grefft neu ddiwydiant drwy’r rhyngrwyd: y geiriau allweddol i’w defnyddio yn y peiriant chwilio - ‘Sector’ + ‘Sefydliad neu Ffederasiwn neu Gymdeithas’ + DU, er enghraifft - Peirianneg + Sefydliad + DU. Bydd hyn yn rhoi rhestrau o Sefydliadau Peirianneg i chi. Bydd gan rai o’r gwefannau hyn fynediad am ddim i gyfeiriaduron o’u haelodau. Gallwch gysylltu â’r cwmnïau yr hoffech weithio iddyn nhw, neu weld eu gwefannau ar gyfer unrhyw swyddi sy’n cael eu hysbysebu. Os nad ydych yn siŵr pa fath o swydd y mae gennych ddiddordeb ynddi eto, rhowch gynnig ar ein Chwiliad Gyrfa neu Gwis Paru Swyddi i gael syniadau.

Darllenwch yr adrannau busnes a chyllid yn eich papurau newydd lleol naill ai ar-lein neu’r fersiynau papur

Mae hyn yn ffordd wych o ganfod pa gwmnïau sy’n ehangu yn eich ardal, neu sy’n symud i’ch ardal. Mae’n bosibl i chi hyd yn oed ganfod enw cyswllt mewn erthygl bapur newydd er mwyn gwybod pwy i gysylltu â nhw. Yna gallwch ddefnyddio’r chwiliadur ar-lein i ganfod mwy am y cwmni neu i weld a oes ganddo unrhyw swyddi ar ei wefan. Ffordd arall o ganfod gwybodaeth ynghylch pa sectorau swyddi sy’n gryf yng Nghymru yw edrych ar ein tudalennau Tueddiadau Swyddi.

Cael mynediad i wefannau arbenigol – edrychwch am wefannau arbenigol wrth i chi chwilio am swyddi

Yna gallwch gadw cofnod o’r rheini sydd o ddiddordeb i chi a dychwelyd atyn nhw yn ddiweddarach.

Mae’r enghreifftiau o wefannau arbenigol yn cynnwys:

  • Fast Growth 50 sy’n rhestru’r 50 cwmni sy’n tyfu gyflymaf yng Nghymru. Gan eu bod yn gwmnïau sy’n tyfu, mae’n bosibl y byddan nhw’n recriwtio a gallech ddechrau eich e-bost/llythyr eglurhaol atyn nhw gan ddweud sut wnaethoch chi ddod o hyd i’r cwmni neu’r swydd wag. (dolen Saesneg yn unig)
  • Mae Cyfnewidfa Pobl Cymru yn hysbysebu swyddi sydd ar gael yn y sector cyhoeddus yng Nghymru.
  • FE jobs – swyddi mewn colegau ledled y DU. (dolen Saesneg yn unig)
Defnyddiwch y cyfryngau cymdeithasol

Gall y Cyfryngau Cymdeithasol fod yn ffordd wych o wneud cysylltiadau a chanfod gwaith. 

Gofynnwch am gyngor ar sut i ddod o hyd i waith drwy wefannau cyfryngau cymdeithasol fel LinkedIn, Facebook a Twitter. Dysgwch sut i gael y presenoldeb cywir ar y cyfryngau cymdeithasol.

Mae gan asiantaethau recriwtio wefannau eu hunain sy’n hysbysebu swyddi

Mae nhw hefyd yn hysbysebu drwy wefannau swyddi mawr ar-lein

Swyddi i raddedigion

Ceir amrywiaeth o leoedd i chwilio am swyddi i raddedigion:

  • Hysbysfyrddau swyddi prifysgolion – cysylltwch â gwasanaeth gyrfaoedd eich prifysgol. 
  • Gwefannau swyddi i raddedigion 
  • Gwefannau swyddi ar-lein
  • Gwefannau cyflogwyr – os ydych yn gwybod am gyflogwr yr hoffech weithio iddo, edrychwch ar ei wefan a chwiliwch am gyfleoedd i raddedigion.  
  • Y Gwasanaeth Sifil  (dolen Saesneg yn unig)
Prentisiaethau

Ceir 3 prif ffordd o ganfod prentisiaethau gwag:

Peidiwch â theimlo bod yn rhaid i chi wneud hyn ar eich pen eich hun!

Mae digon o bobl sydd eisiau eich helpu i ddod o hyd i waith, felly gallwch chi:

Gallwch ddod o hyd i swyddi sydd ddim ar-lein hefyd:

  • Holwch eich cysylltiadau. Gofynnwch i bawb rydych yn eu hadnabod am unrhyw gwmnïau maen nhw wedi clywed amdanynt, a chysylltwch â nhw. Os ydych yn teimlo’n ansicr am sut i gysylltu â chwmnïau, defnyddiwch ein hawgrymiadau ar gyfer ysgrifennu llythyrau/e-byst i greu argraff, a ffonio i holi am swyddi. 
  • Hysbysebion yn ffenestri cwmnïau. Mae rhai cyflogwyr yn dal i hysbysebu drwy roi hysbyseb yn eu ffenestri neu ar hysbysfyrddau. 

Nodyn: Gallech hyd yn oed gael cerdyn rhodd am sylwi ar hysbysebion! Mae Indeed (Dolen Saesneg yn unig) wedi lansio ap o'r enw Job Spotter. Ar Job Spotter gallwch uwchlwytho llun o’r hysbyseb swydd ac eiddo’r cwmni ac ennill pwyntiau. Bydd y pwyntiau wedyn yn troi’n gerdyn rhodd pan fyddwch wedi ennill digon ohonyn nhw. 


Efallai i chi hefyd hoffi: